Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mehefin 2022
Amser:
14.30 -
17.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12861
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS Peredur Owen Griffiths AS Joel James AS |
Tystion: |
Neil Surman, Llywodraeth Cymru Sue Hurrell, Welsh Government - Head of Fair work Procurement Neil Buffin, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Stephen Davies Samiwel Davies |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Roedd Peredur Owen Griffiths yn bresennol yn lle Sioned Williams a Joel James yn bresennol yn lle Altaf Hussain ar gyfer pob eitem ar yr agenda yn ymwneud â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid.
2.2 Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar graffu blynyddol ar Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
2.3 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch gwaharddiadau ar eitemau plastig untro.
2.4 Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hawliau Dynol ynghylch profiadau o iechyd a gofal cymdeithasol: triniaeth gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar gyflogau is.
2.5 Llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch ffoaduriaid o Wcráin.
2.6 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cynghorydd/Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Trais yn Seiliedig ar Rywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) ac (ix) i wahardd y cyhoedd o eitemau 4 a 6 ar yr agenda.
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
4 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): briff technegol
Gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau technegol i swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
5 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth weinidogol
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Hannah Blythyn – y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol – a’i swyddogion:
Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg
Sue Hurrell, Pennaeth Caffael Gwaith Teg
Neil Buffin, Materion Cyfreithiol
6 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): ystyried y dystiolaeth
Cyfarfu'r Aelodau yn breifat i ystyried y dystiolaeth a gawsant.